Prosiect Bikefix Caerdydd

Croeso i’n lleoliad Bikefix newydd yng Ngerddi’r Rheilffordd yn y Sblot, Caerdydd – man cymunedol hyfryd sy’n dod â phobl at ei gilydd a chysylltu efo trigolion lleol ar led y ddinas.

Ynglŷn â’r prosiect

Ers mis Mawrth 2025, rydym wedi bod yn cynnal sesiynau Bikfefix ar ddiwrnodau Sadwrn penodol yn fisol. Mae’r sesiynau yn rhoi’r cyfle i bobl leol cael mynediad at drwsiadau beic fforddiadwy wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd ar yr un adeg.

 

Diolch i nawdd o ddwy flwyddyn gan Y Loteri Genedlaethol yn dechrau ym mis Ionawr 2026, rydym yn gyffrous iawn i dyfu Bikefix mewn i wasanaeth galw heibio cyson. Bydd sesiynau yn cael ei arwain gan ein Prif Mecanydd y prosiect Nelson, yn cael ei gefnogi gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig.

Pryd?

Bydd Bikefix yn cynnal cymysgfa o sesiynau ar ddyddiau Gwener a Sadwrn, yn ogystal â digwyddiadau estyn allan yn ardaloedd eraill yng Nghaerdydd er mwyn cyrraedd pobl newydd.

Cadwch lygaid ar ein cyfryngau Community Cycleworks Caerydd am ddiweddariadau.

Ble?

Community Cycleworks Caerdydd yng Ngerddi’r Rheilffordd, y Sblot.

Cydweithiwch â ni

Ydych chi’n ysgol, clwb ieuenctid neu fan cymunedol sydd eisiau gweithio efo ni? Hoffan glywed oddi wrthoch chi! E-bostiwch Nelson ar nels@ccw.bike

Cymerwch ran

Mae gwirfoddoli efo Bikefix yn ffordd wych i:

  • Helpu pobl trwsio’u beiciau
  • Cefnogi digwyddiadau a gwaith estyn allan
  • Cyfrannu tuag at gyfryngau cymdeithasol neu gadw llygad ar brosiect

Gall dim ond ychydig o oriau’r mis gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gwirfoddoli’n helpu pobl teimlo’n fwy cysylltiedig, yn llai unig, ac mae’n gallu arwain at gyfleoedd newydd.

Beth yw Bikefix?

Bikefix yw ein cynnig lleol i drigolion, gweithwyr a myfyrwyr Caerdydd. Rydym yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol – gan roi’r offer yn eich dwylo, dysgu sgiliau, a thrwsio beiciau gyda’n gilydd

A oes angen i mi dalu?

  • Wedi’ ariannu gan grantiau: Amser y mecanydd a chydrannau bach.
  • Rydym yn croesawu rhoddion: Os fedrwch chi gyfrannu, mae eich cefnogaeth yn helpu Bikefix i dyfu a chyrraedd mwy o bobl. Mae popeth yn helpu i’w dalu ymlaen.

Geiriau Nelson

“Gan wrando ar bobl yn sôn wrthaf eu bod nhw’n teimlo fel eu bod nhw ar goll heb y gallu iddynt reidio eu beiciau, roedd hynny’n ddigon i mi wybod pa mor bwysig ydyw i gael Bikefix fel digwyddiad rheolaidd. A heb ei sylweddoli, creodd man ble gall pobl cymdeithasu ag eraill yn y gymuned wrth i’w beiciau nhw cael eu trwsio – dyna yw nod yr holl beth a dweud y gwir.”

Dyddiadau

Dydd Gwener 13eg Mawrth: Gerddi’r Rheilffordd, CF24 4BH, 3yh-6yh

Dydd Sadwrn 14eg Mawrth: Gerddi’r Rheilffordd, CF24 4BH, 10.30yb-2.30yh

Dydd Gwener 3ydd Ebrill: Gerddi’r Rheilffordd, CF24 4BH, 3yh-6yh

Dydd Sadwrn 4ydd Ebrill: Gerddi’r Rheilffordd, CF24 4BH, 10.30yb-2.30yh

Dydd Mawrth 7fed Ebrill: Oasis Caerdydd, CF24 2BW, 10yb-3yh

Dydd Sadwrn 25ain Ebrill: Gerddi’r Rheilffordd, CF24 4BH, 10.30yb-2.30yh

Oriel

Tysteb

Schools we work with

We need your support

Help us continue doing what we are doing.

DONATE NOW

Expression of Interest

If you’re interested to know more about any of our services, or want to talk to us about how to get involved in fundraising please fill in this form or contact Stewart on 02080583994

"*" indicates required fields

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Choose London, Kent or Cardiff